Mae Adenillion Cymdeithasol ar y Buddsoddiad yn fodd o asesu gwerth ariannol y prosiect. Mae’n cyfrifo gwerth ariannol y mewnbynnau o’u cymharu â’r deilliannau. Yn aml gellir anwybyddu deilliannau cymdeithasol gan ei bod yn anodd asesu neu gymharu eu heffaith. Mae’r Adennill neu Fuddsoddiad Cymdeithasol yn fodd i roi gwerth ariannol The Social Return on Investment is a way to put a financial value ar ddeilliannau cymdeithasol mewn ffordd gyson. Fe’i defnyddir yn aml gan fentrau cymdeithasol.
Y cyfnodau allweddol ar gyfer Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (ACAR) yw:
1.Adnabod y rhanddeiliaid
2.Mapio deilliannau Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu map effaith sy’n dangos y berthynas rhwng mewnbynnau, allbynnau a deilliannau.
3.Cael tystiolaeth am ddeilliannau a rhoi gwerth iddynt. Mae’r cyfnod yma yn cynnwys canfod data i ddangos os oes deilliannau wedi digwydd ac yna rhoi gwerth arnynt.
4. Sefydlu effaith. Edrycha hyn ar yr agweddau hynny ddigwyddai beth bynnag neu sydd o ganlyniad i ffactorau eraill na ystyrir bellach.
5. 5. Amcangyfrif yr ACAR Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys cyfrif yr holl fuddiannau, tynnu i ffwrdd unrhyw negyddion a chymharu’r canlyniad â’r buddsoddiad.
6. Adrodd , defnyddio a sefydlu
Tan ategir y model hwn gan 7 egwyddor allweddol, sy’n cynnwys:
- Ymglymu rhanddeiliaid
- Deall beth sy’n newid
- Gwerthfawrogi’r pethau sydd o bwys
- Dim ond cynnwys yr hyn sy’n faterol
- Peidiwch â chôr hawlio
- Byddwch yn eglur
- Gwiriwch y canlyniad
Mae’r model ar gael i’w ddefnyddio a gelli ei lawr lwytho oddi ar www.theroinetwork.org.
Ewch yn ôl i rhan naw
ATEBOLRWYDD AR SAIL CANLYNIADAU RESULTS NEU AASC (RBA)